Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa rhieni bod achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS) yn parhau i fod yn brin yng Nghymru, a bod gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae haint â streptococol A yn achosi'r dwymyn goch, salwch ysgafn fel arfer.
Mae haint streptococol Grŵp A (GAS) yn grŵp o facteria sy'n achosi heintiau yn y gwddf a'r croen.
Mae’r dwymyn goch yn haint heintus a achosir gan haint streptococol Grŵp A sy’n effeithio’n bennaf ar blant ifanc. Mae'n hawdd ei drin â gwrthfiotigau.
Weithiau gall clefyd GAS difrifol ddigwydd pan fydd bacteria yn mynd i mewn i rannau o'r corff lle nad yw bacteria fel arfer i'w cael, fel y gwaed, y cyhyrau neu'r ysgyfaint. Gelwir yr heintiau hyn yn glefyd Streptococol Grŵp A ymledol (iGAS) a gallant gynnwys cyflyrau difrifol, megis syndrom sioc wenwynig.
Mae heintiau GAS ymledol yn digwydd pan fydd y bacteria yn mynd heibio i amddiffynfeydd y person sydd wedi'i heintio. Gall hyn ddigwydd pan fydd gan berson friwiau neu doriadau eraill yn y croen sy’n caniatáu i’r bacteria fynd i mewn i’r meinwe, neu pan fydd gallu’r person i frwydro yn erbyn yr haint yn lleihau oherwydd salwch cronig neu salwch sy’n effeithio ar y system imiwnedd.
Rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o'r dwymyn goch eleni ac mae'n cyflwyno'i hun yn gynt nag arfer. Mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i’r ffaith bod plant yn fwy ynysig yn ystod pandemig y Coronafeirws, a nawr yn ôl mewn lleoliadau cymdeithasol yn amlach. Gall cynnydd mewn achosion o'r Dwymyn Goch arwain at fwy o achosion o'r iGAS llawer prinnach.
Er ein bod yn deall bod rhieni’n debygol o gael eu poeni gan adroddiadau y maent yn eu gweld yn ymwneud ag iGAS, mae achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS) yn parhau i fod yn brin yng Nghymru, ac mae gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae haint â bacteria streptococol A yn achosi'r dwymyn goch, salwch ysgafn fel arfer.
Mae symptomau annwyd a ffliw yn gyffredin iawn yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig ymhlith plant. Bydd gan y rhan fwyaf o blant â'r symptomau hyn firws tymhorol cyffredin, y gellir ei drin trwy gadw'r plentyn wedi'i hydradu, a chyda pharasetamol.
Efallai y bydd rhai plant sydd â symptomau tebyg i annwyd a ffliw - dolur gwddf, cur pen, twymyn - yn profi rhai o symptomau cynnar y dwymyn goch, sydd hefyd yn cylchredeg yr adeg hon o'r flwyddyn. Bydd y plant hyn yn mynd ymlaen i ddatblygu symptomau penodol y dwymyn goch, gan gynnwys brech mân-goch pinc sy’n teimlo fel papur tywod i’w gyffwrdd, a dylai rhieni gysylltu â’u meddyg teulu os ydynt yn gweld y symptomau hyn.
Er bod y dwymyn goch yn peri mwy o bryder nag annwyd, mae'n dal fel arfer yn salwch ysgafn y bydd y rhan fwyaf o blant yn gwella ohono heb gymhlethdodau, yn enwedig os caiff y cyflwr ei drin yn iawn â gwrthfiotigau.
Mewn achosion prin iawn, gall haint streptococol grŵp A achosi iGAS, cymhlethdod prin sy’n effeithio ar lai nag 20 o blant yng Nghymru bob blwyddyn. Er bod iGAS yn gyflwr sy'n peri pryder, bydd mwyafrif y plant hyn yn gwella gyda thriniaeth briodol.
Y peth gorau y gall rhieni ei wneud yw darparu’r gofal y byddent fel arfer yn ei ddarparu i blentyn â symptomau tebyg i annwyd a ffliw, ond ymgyfarwyddo â symptomau’r dwymyn goch ac iGAS fel rhagofal.
Mae symptomau'r dwymyn goch yn cynnwys dolur gwddf, cur pen, twymyn, cyfog a chwydu. Dilynir hyn gan frech goch fân, sydd fel arfer yn ymddangos gyntaf ar y frest a'r stumog, gan ledaenu'n gyflym i rannau eraill o'r corff. Efallai na fydd gan blant hŷn y frech.
Ar groen sydd â phigmentau mwy tywyll, efallai y bydd y frech ysgarlad yn anoddach i'w gweld, ond dylai deimlo fel 'papur tywod'. Gall yr wyneb fod yn goch ond yn welw o gwmpas y geg.
Cynghorir rhieni sy’n amau bod gan eu plentyn symptomau’r dwymyn goch y dylent:
Mae rhieni'n cael eu cynghori i gysylltu â'u meddyg teulu neu gael cyngor meddygol ar unwaith os ydynt yn meddwl bod gan eu plentyn unrhyw arwyddion a symptomau clefyd iGAS.