Neidio i'r prif gynnwy

GIG 111 Cymru

GIG 111

111 yw’r rhif newydd hawdd ei gofio a rennir ar gyfer Galw Iechyd Cymru a’r gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau y gellir ei ffonio am ddim o ffonau symudol a llinellau sefydlog. Mae’n wasanaeth 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, sy’n cynnig arweiniad a gofal ar gyfer yr holl broblemau meddygol brys nad ydynt yn rhai brys.

Os ydych yn ansicr ynghylch eich symptomau neu sut i drin eich hun, ffoniwch GIG 111 am ddim o unrhyw ffôn drwy ddeialu 111 yn unig. Gallwch hefyd ymweld â gwefan GIG 111 a defnyddio gwiriwr symptomau GIG 111 i gael cyngor ar gyflyrau, triniaeth ac ataliad pellach . Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael eich gweld yn y lle iawn y tro cyntaf.

 

Gallwch ddeialu 111 os oes angen:
  • Gofal brys
  • Gwasanaethau Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau
  • Cyngor
  • Gwybodaeth Iechyd