Mae'n hynod bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os ydych wedi newid eich enw, eich cyfeiriad cartref, neu'ch rhif ffôn. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau y gallwn gysylltu â chi os oes angen a bod gohebiaeth yn cael ei hanfon o'r Practis i'r cyfeiriad cywir.
Os hoffech roi gwybod i ni am newid manylion yn bersonol, rhowch wybod i'r Derbynnydd, neu ffoniwch ein tîm derbynfa ar 01745 814422. Gallwch hefyd ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein i ddweud wrthym am eich newid manylion ar-lein trwy ein gwefan – cliciwch ar yr eicon ar y dde. Byddai’n help mawr pe gallech hefyd ddarparu rhif ffôn cartref a/neu rif ffôn symudol a’ch cod post.
Peidiwch ag anghofio rhoi gwybod i ni os yw aelodau eraill o’ch cartref sydd hefyd wedi cofrestru gyda’r practis yn newid eu manylion hefyd.
Gallwch wneud newidiadau i Eich Enw, Cyfeiriad neu Rif Ffôn Ar-lein gan ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein. (Angen Cofrestru)