Mae gennym restr agored ac rydym yn croesawu ceisiadau am gofrestru gan gleifion sy'n symud i ardal y Practis.
Gallwch gofrestru drwy fynd i'r feddygfa gyda'ch cerdyn meddygol GIG, neu drwy lenwi ffurflen sydd ar gael o'r dderbynfa. Gofynnwn yn garedig i chi ddod â phrawf adnabod a chyfeiriad gyda chi pan fyddwch yn mynychu'r feddygfa i gofrestru.
Os yw'n well gennych weld meddyg neu nyrs benodol, rhowch wybod i'r dderbynfa fel y gallwn ychwanegu hwn at eich cofnodion.
Rhaid i bob claf newydd gael gwiriad iechyd gyda nyrs practis.