Rydym yn gallu darparu Gwasanaethau Iechyd Teithio ym Meddygfa Bronyffynnon.
Os oes angen brechiadau teithio neu gyngor iechyd arnoch cyn teithio dramor, cysylltwch â'r feddygfa drwy ffonio 01745 814422 neu drwy Brysbennu Cleifion.
Bydd ein Nyrs Teithio wedyn yn cysylltu â chi am ragor o fanylion a/neu yn eich gwahodd i mewn am ymgynghoriad teithio.
Sylwch fod y mwyafrif o frechiadau teithio yn cael eu darparu gan y GIG ac felly maent yn rhad ac am ddim, fodd bynnag, nid yw rhai brechiadau wedi’u cynnwys o dan wasanaethau’r GIG ac efallai y codir tâl amdanynt.
Bydd y nyrs teithio yn gallu rhoi gwybod pa frechlynnau sydd am ddim a pha rai sy'n cael eu hystyried yn waith preifat, a chynghori ar y gost.
Bydd angen talu am frechlynnau preifat cyn rhoi’r brechiadau.