Rydym yn ceisio darparu gwasanaeth effeithlon a dibynadwy bob amser. Er gwaethaf hyn, o bryd i'w gilydd gall pethau fynd o chwith. Rydym yn croesawu eich sylwadau fel y gallwn wella ein gwasanaeth.
Os hoffech wneud cwyn dylech ysgrifennu at :-
Mr Neil Jenkins (Rheolwr Practis),
Meddygfa Bronyffynnon,
Dinbych,
LL16 3TF
Mr Neil Jenkins yw Rheolwr Cwynion y Feddygfa.
Sylwch y gellir ymchwilio i gwynion yn fwy trylwyr pan gânt eu gwneud yn ysgrifenedig. Os bydd angen byddwn yn eich helpu i ysgrifennu eich cwyn. Fel arall, gallwch ofyn i ffrind neu berthynas ysgrifennu ar eich rhan ond rhaid iddynt gynnwys eich caniatâd wedi'i lofnodi i wneud hynny.
Dywedwch wrthym mor fanwl â phosibl beth sydd wedi mynd o'i le, a beth y teimlwch y dylid ei wneud.
Os hoffech dderbyn rhagor o wybodaeth am ein proses gwyno, cysylltwch â Rheolwr y Practis a fydd yn rhoi copi o'n polisi cwynion i chi.
Hoffem hefyd glywed gan gleifion pan fyddwn wedi gwneud gwaith arbennig o dda.